Nid oes arnaf faich yn gorphwys

1,2,3,5,6;  1,2,4,5.
(Erfyniad am fwynhad o Dduw i symmud ofn angeu)
Nid oes arnaf faich yn gorphwys,
  Dim ond eisiau dy fwynhau;
Nid oes arall dan y nefoedd,
  A all yn hollol fy iachau;
    Rho dy gwm'ni, etc.
  Cyn im' fyn i'r cefn-for glas.

Tynn yr ofnau hen o farw,
  Sydd yn llechu tan fy mron;
Rho im' heddwch a gorfoledd,
  Tra b'wyf ar y ddaear hon;
    Na therfysged, &c.
  F'enaid gwan y'ngrym y dw'r.

Mi dde's yma i'r anialwch,
  Byd o newyn, byd o wae;
Heb un achos, heb un neges,
  Ond yn onig' dy fwynhau;
    Hyn ei hunan, &c.
  Fydd fy nghais tra byddwyf byw.

Nid wy'n caru fy mhechodau,
  Poenau ydynt oll i gyd,
Hwnw sy'n fy mhoeni fwyaf
  Ag sy'n ceisio myn'd â 'mryd:
    Tor hwy'n fuan,
  Dyna finnau wrth fy modd.

Dyma'n gwbl fy neisyfiad,
  I mi gael bod yn dy gôl,
Er na theithiais etto nemmawr,
  Na'd fi dynnu hynny'n ol,
    Gwna im' gadw, &c.
  'Ngolwg tu a'r hyfryd wlad.

Mi gâf yn y wlad 'rw'yn myned,
  Ddiengu'n lân oddiar fy mhoen,
Gorphwys byth tu draw i ofid,
  Gyd â'r addfwyn anwyl Oen,
    Ni ddaw tristwch, &c.
  Byth i mewn dros furiau'r nef.
a gorfoledd :: rho gorfoledd
y'ngrym :: yn ngrym

William Williams 1717-91

Tonau [8787447]:
Hyder (Richard Ellis 1775-1855)
Ongar (<1869)
St Peter (alaw Eglwysig)

gwelir:
  Dysgwyl ('r)()wyf ar hyd yr hir(-)nos
  Mi feddyliais yn y bore

(Prayer for the enjoyment of God to remove the fear of death)
There is not on me a burden lying,
  Except wanting to enjoy thee;
There is no-one else under heaven,
  Who can completely heal me;
    Grant thy company,
  Before I go to the blue-green ocean.

Take away the old fear of dying,
  Which is lurking under my breast;
Grant me peace and joy,
  While ever I am on this earth;
    Do not let my weak soul be
  In a tumult in the force of the water.

I came here to the desert,
  A world of hunger, a world of woe;
Without any cause, without any message,
  But only to enjoy thee;
    This itself
  Shall be my quest while ever I live.

I do not love my sins,
  They are all pains altogether,
This is paining me most
  And is causing me to take my affection:
    Break them soon,
  Then I shall be delighted.

This is the whole of my supplication,
  For me to get to be in thy bosom,
Although I have not travelled yet at all,
  Do not let me draw back from this,
    Make me keep
  My gaze towards the delightful land.

I may get, in the land where I am going,
  To escape cleanly from my pain,
To rest forever beyond worry,
  Together with the dear, gentle Lamb,
    No sadness shall come
  Ever in over the walls of heaven.
and joy :: grant joy
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~